Mae pobl Prydain yn gwneud llai o deithiau tramor ac yn gwario llai tra byddant i ffwrdd yn ôl ffigurau newydd.
Mae ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod Prydeinwyr wedi gwneud 3.28 miliwn o deithiau tramor ym mis Tachwedd 2010 mewn cymhariaeth â 3.54 miliwn ym mis Tachwedd 2009.
Roedd Prydeinwyr wedi gwneud 52.25 miliwn o deithiau yn ystod 11 mis cyntaf 2010- 6% yn llai mewn cymhariaeth â’r un cyfnod yn 2009.
Mae gwariant ar eu teithiau tramor hefyd wedi lleihau. Fe gafodd £1.7bn ei wario ym mis Tachwedd 2010 mewn cymhariaeth â £1.8bn yn yr un mis y flwyddyn cynt.
Roedd y gwariant Prydeinwyr ar eu teithiau am 11 mis cyntaf 2010 yn £29.41bn – 2% lawr ar 2009.
Ond mae ymweliadau pobl tramor â Phrydain yn ystod 2010 wedi aros yr un peth â 2009 gyda 27.55 miliwn o deithiau.
Mae gwariant tramorwyr ym Mhrydain wedi cynyddu 1% o 2009 i 2010 gyda £15.39bn yn cael ei wario yn 11 mis cyntaf 2010.