Mae Pont-ar-Ddyfi ger Machynlleth wedi cau o ganlyniad i lifogydd trwm ar hyn o bryd.
Mae gwyriadau wedi’u gosod ac nid oes adroddiadau am oedi traffig, meddai swyddog o Traffig Cymru wrth Golwg360.
Hefyd, mae’r A487 wedi’i gau i’r ddau gyfeiriad rhwng Machynlleth a Glandyfi, er bod disgwyl i’r ffyrdd ail-agor brynhawn heddiw.
Llun: Pont-ar-Ddyfi gan Sioned Edwards
“Trio teithio i gynhadledd cyfryngau newydd yn Aberystwyth o ardal Corris oeddwn i,” meddai Sioned Edwards o Gaerdydd a oedd yn aros yn ardal Corris neithiwr. “Mi es i drwy Llanwrin gan fod y bont ar gau, ond wedi gorfod troi’n ôl i Fachynlleth yn Derwenlas. Mae’r ffyrdd mynyddig yn byllau tyfnion iawn hefyd, felly do’n i methu â mynd o amgylch y llifogydd chwaith.
“Mae’r rhain damed yn waeth na llifogydd tymhorol rhaid dweud – anaml iawn allwn ni ddim cyrraedd Aber. Mae ffrindiau o lecynnau mwy diarffordd wedi cael yr un drafferth hefyd.”
Llun: Pont-ar-Ddyfi, bore Iau, 10.00am gan Sioned Edwards
Eisoes, mae yna dri rhybudd llifogydd yng Nghymru ar ôl glaw trwm dros nos, a phryder y bydd rhagor o law yn disgyn dros y 24 awr nesaf.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi dweud y gallai mwy nag 40mm o law ddisgyn dros de a chanolbarth Cymru heddiw, ar dir sydd eisoes yn soeglyd ar ôl glaw mawr ddoe.
Llun: Pont Dulas ar afon Dyf gan Sioned Edwards
Llun: Y ffordd o gwmpas Talyllyn, o dan ddŵr gan Adam Walton