Mae Cymdeithas Bêl Droed Cymru wedi dweud eu bod nhw’n parhau i wrthod y syniad o chwaraewyr o Gymru yn cynrychioli tîm Prydeinig yng Ngemau Olympaidd 2012.
Yn ôl adroddiadau mae chwaraewr Tottenham, Gareth Bale wedi dweud bod ganddo ddiddordeb i chwarae yn y Gemau Olympaidd yn Llundain blwyddyn nesaf.
Ond dyw Cymdeithas Bêl Droed Cymru ynghyd ag awdurdodau pêl-droed yr Alban a Gogledd Iwerddon ddim yn fodlon i’w chwaraewyr cymryd rhan yn y gystadleuaeth.
Mae cymdeithasau pêl-droed y tair gwlad yn ofni gallai creu tîm Prydeinig tanseilio eu hannibyniaeth o fewn FIFA.
Mae Cymdeithas Bêl Droed Lloegr wedi cytuno i gynrychioli Prydain yn y gemau.
“Dyw ein barn ar y mater ddim wedi newid ac mae’n annhebygol o newid,” meddai Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl Droed Cymru, Jonathan Ford.
Fe ddywedodd Jonathan Ford nad oes yr un chwaraewr wedi cysylltu gyda’r gymdeithas i ddweud eu bod nhw’n awyddus i chwarae yn y gemau.
Mae hyfforddwr newydd Cymru, Gary Speed wedi dweud ei fod yn deall pam y byddai rhai chwaraewyr yn awyddus i chwarae yn y gemau.
Ond fe ychwanegodd bod cyfleoedd chwaraewyr Cymru o gystadlu yn un o’r prif bencampwriaethau rhyngwladol yn gryf beth bynnag.
“Fy nod i yw cyrraedd un o’r prif bencampwriaethau. Wrth edrych ar y chwaraewyr sydd ar gael, mae gennym ni gyfle da,” meddai Speed.
“Os mae Gareth wedi dangos diddordeb yn y gemau, mae hynny’n dangos pa mor benderfynol yw e i lwyddo. Mae’n awyddus i chwarae ar y llwyfan mwyaf ac fe allai ddeall hynny.”