Mae ymgyrch i gynnau fflamau serch trwy farddoniaeth ar ddydd Santes Dwynwen yn cynnig gwasanaeth danfon cardiau ar ran cariadon Cymru am ddim eleni.
Yn ôl Gwen Lasarus, o Gynllun Hyrwyddo Llenyddiaeth Gwynedd, gall Gymry ledled y byd gysylltu â hi a chael cerdyn arbennig – sydd wedi ei gynllunio gan yr artist Catirn Meirion, ac yn cynnwys englyn gan y Prifardd Twm Morys – wedi ei ddanfon yn uniongyrchol at eu cariadon erbyn 25 Ionawr.
Hon yw seithfed blwyddyn yr ymgyrch, ac mae’n nhw wedi cael “ymateb arthurol” mor belled, meddai Gwen Lasarus.
“Dwi’n gwneud y gwaith dros y cariadon,” meddai Gwen Lasarus, sy’n gwneud y gwaith trefnu a phostio i gyd unwaith iddi dderbyn yr wybodaeth, “ac mae’r cwbwl am ddim.”
Partneriaeth rhwng yr Academi a Chyngor Gwynedd sy’n galluogi’r Cynllun Hyrwyddo Llenyddiaeth i wneud y gwaith am ddim, fel rhan o’u hymgyrch i godi ymwybyddiaeth o lenyddiaeth yng Nghymru.
“Yr amcan yn y pendraw yw codi proffil gwaith un bardd bob blwyddyn, a’r Prifardd Twm Morys yw’r bardd hwnnw eleni,” meddai.
Yn y gorffennol, mae beirdd fel Mererid Hopwood, Myrddin ap Dafydd, a’r diweddar Iwan Llwyd, wedi cyfrannu darn o farddoniaeth at y cardiau.
Cyntaf i’r felin…
Mae’r cynllun yn galluogi pobl i ofyn am ddanfon unai cerdyn drwy’r post, neu e-gerdyn dros y we.
“Ond,” meddai Gwen Lasarus “dim ond 70 cerdyn sydd ar gael – felly’r cyntaf i’r felin fydd hi, er, gellid anfon e-gardiau di-rifedi.”
Mae pymtheg o gardiau eisioes wedi cael eu postio gogyfer â dydd Santes Dwynwen, felly mae’n argymell i bawb sy’n dyumno anfon un i gysylltu â hi ar gwenlasarus@gwynedd.gov.uk, neu ffonio 01286 679465 (Llun- Mercher yn unig) neu adael neges wrth ddesg Llyfrgell Caernarfon.
Llun: Gwen Lasarus a chardiau Santes Dwynwen (Cyngor Sir Gwynedd)