Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad yn siop Aldi ym Mhrestatyn.

Fe gafodd yr Heddlu eu hysbysu o’r digwyddiad tua chwarter i wyth nos Fawrth.

Roedd dau ddyn wedi mynd i mewn i’r siop. Wrth i un sefyll wrth y drws, roedd ail ddyn wedi mynd at ariannwr, wedi’i wthio gan ddwyn arian o’r til cyn dianc o’r siop.

Roedd y siop yn agored ar y pryd ac ni anafwyd neb yn y digwyddiad. Dyw’r Heddlu ddim yn credu bod arfau wedi’u defnyddio.

Eisoes, mae’r Heddlu wedi archwilio’r safle gyda hofrennydd a chwn – ond heb gael
unrhyw wybodaeth ychwanegol.

Y manylion…

Mae ymchwiliadau heddlu yn parhau heddiw ac mae ffilm teledu cylch cyfyng yn cael ei astudio hefyd. Roedd y ddau ddyn yn gwisgo dillad tywyll ac roedd eu hwynebau wedi’u gorchuddio, meddai’r Heddlu.

Mae’r cyntaf yn cael ei ddisgrifio fel bod rhwng pum troedfedd wyth a 5 troedfedd 10 o daldra ac o gorff tenau. Roedd ganddo’i hwd ymlaen ac roedd ei wyneb wedi gorchuddio.

Roedd yr ail yn denau hefyd – roedd yn gwisgo hwd ac roedd wedi’ tycio’i sanau dros ei drowsus trac wisg ac yn gwisgo esgidiau chwaraeon du.

Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth neu a welodd rywun yn actio’n amheus y tu allan i siop Aldi gysylltu gyda’r Heddlu ar 0845 6071001 neu â Taclo’r Tacle’ ar 0800 555 111.