Fe fydd Llywodraeth Prydain heddiw’n cyhoeddi ei hargymhellion ar gyfer y newid mwyaf yn y system cynnal plant mewn degawd.
Yn ôl y Gweinidog Teuluoedd, Maria Miller, mae’r system bresennol yn annog gwrthdaro rhwng rhieni, ac mae angen diwygio brys er mwyn atal y graddau y mae teuluoedd yn chwalu.
Mae ystadegau’n dangos fod un ym mhob pump o blant mewn teuluoedd sy’n chwalu yn colli cysylltiad gydag un rhiant o fewn tair blynedd a byth yn ei gweld eto. Mae llawer o blant hefyd yn colli cysylltiad gyda rhiant wrth iddyn nhw dyfu i fyny.
“Rydan ni’n gwybod bod rhieni yn llawer mwy tebygol o aros mewn cysylltiad os oes trefniadau ariannol effeithiol mewn lle – ac yn llawer mwy tebygol o gael perthynas gryfach gyda’u plant,” meddai Maria Miller wrth bapur y Daily Mail.
“Mae aros mewn cysylltiad â’r ddau riant yn gwbl allweddol i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i’r plentyn,” meddai.
Yn ôl y Gweinidog, mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos fod 3.5 miliwn o blant o deuluoedd sydd wedi chwalu – heb unrhyw system gynhaliaeth effeithiol.
O dan y cynigion newydd – fe fydd rhieni sy’n gwahanu yn cael eu hannog i ddod i gytundeb ar drefniant.