Mae Aung San Suu Kyi, arweinydd yr ymgyrch dros ddemocratiaeth yn Burma yn ceisio adfer ei phlaid wleidyddol ac wedi lansio apêl yn Llys Goruchaf y wlad, meddai ei chyfreithwyr heddiw.
Fe gafodd Aung San Suu Kyi ei rhyddhau o gaethiwed ei thŷ ym mis Tachwedd, 2010.
Mae llawer yn credu fod y weithred gyfreithiol o apelio yn un symbolaidd i raddau helaeth gan fod Llysoedd Burma yn glynu wrth bolisïau’r Llywodraeth filwrol a’r junta, yn arbennig ar faterion gwleidyddol.
Mae apeliadau’r arweinydd yn y gorffennol wedi’u gwthio i un ochr neu eu gwrthod.
Fe gafodd cais tebyg i adfer y Gynghrair Genedlaethol dros Ddemocratiaeth ym mis Tachwedd ei wrthod. Fe gollodd y blaid ei statws cyfreithiol oherwydd ei bod wedi methu a chofrestru i gymryd rhan yn etholiadau’r mis – gan ddatgan na fyddai’r bleidlais yn deg.
Plaid oedd yn agos at y junta milwrol a enillodd yr etholiadau ac mae disgwyl i sesiwn cyntaf y senedd gael ei gynnal 31 Ionawr.
Cafodd Aung San Suu Kyi, cyn-enillydd Gwobr Heddwch Nobel, ei rhyddhau 13 Tachwedd ar ôl dros saith mlynedd yn gaeth yn ei chartref.