Mae yna dri rhybudd llifogydd yng Nghymru ar ôl glaw trwm dros nos, a phryder y bydd rhagor o law yn disgyn dros y 24 awr nesaf.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai mwy nag 40mm o law ddisgyn dros de a chanolbarth Cymru heddiw, ar dir sydd eisoes yn soeglyd ar ôl glaw mawr ddoe.

Mae disgwyl i’r tywydd garw barhau hyd at ddydd Sul.

Mae Afon Elai yn Sain Ffagan, Afon Reidiol yn Aberystwyth, ac Afon Dyfi ym Machynlleth, Powys, yn beryglus o uchel.

Mae yna hefyd rybudd y gallai llifogydd ddatblygu yn yr Afon Rhondda, afonydd dalgylch Nedd, yr Afon Elai, afonydd dalgylch Tywi isaf islaw Llandeilo, Hafren a’i llednentydd, Bran a Gwydderig yn Llanymddyfri, ac Afonydd dalgylch Tawe gan gynnwys Twrch.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw dros nos i ar ôl llifogydd yn ne a chanolbarth Cymru.

Bu’n rhaid clirio dŵr o Seaview Terrace yn Aberdyfi, Alma Terrace, Cwm Ogwr, a Llynlloedd ar gyrion Machynlleth.