Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi galw am undod yn ystod gwasanaeth coffa i’r rheini fu farw o ganlyniad i’r saethu yn Arizona.

Galwodd ar bobol yr Unol Daleithiau i’w anrhydeddu nhw drwy fod yn wlad well.

Cymeradwyodd y dorf wrth i Barack Obama ddweud bod yr aelod o Dŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau, Gabrielle Giffords wedi agor ei llygaid am y tro cyntaf ers cael ei saethu yn ei phen dydd Sadwrn.

Er bod rhai wedi beio gwleidyddion sy’n defnyddio iaith dreisgar am yr ymosodiad, dywedodd Barack Obama ei bod hi’n amhosib gwybod beth oedd y tu ôl i’r ymosodiad.

Fe fuodd chwe pherson farw, gan gynnwys merch naw oed, ac fe gafodd 13 eu hanafu.

“Rydw i’n credu fod gyda ni’r gallu ni fod yn well,” meddai Barack Obama wrth y dyrfa ym Mhrifysgol Arizona.

“Mae’n bosib nad ydym ni’n gallu atal yr holl ddrwg yn y byd, ond ni sy’n penderfynu sut ydan ni’n trin ein gilydd.

“Dyw’r grymoedd sy’n ein gwahanu ni ddim mor gryf â’r rheini sy’n ein huno ni.

“Agorodd Gabby ei llygaid. Mae hi’n gwybod ein bod ni yma, mae hi’n gwybod ein bod ni’n ei charu hi, ac mae hi’n gwybod ein bod ni yma i’w chefnogi hi drwy siwrne anodd.”

Mae disgwyl i Gabrielle Giffords oroesi, ond mae’n anodd gwybod beth fydd ei chyflwr.