Fe fydd Llywodraeth y Cynulliad yn bwrw ymlaen â’u hymgais i newid y ddeddf ar roi organau yng Nghymru, er gwaethaf gwrthwynebiad disymwth gan Lywodraeth San Steffan.
Roedd y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, ar fin ddiweddaru’r Siambr ynglŷn â’r mater ddoe pan gysylltodd twrnai cyffredinol Llywodraeth San Steffan gan fynegi “pryderon sylfaenol” ynglŷn â chreu sustem ar wahân yng Nghymru.
Cyn i’r Cynulliad gael yr hawl i ddeddfu ar y mater fe fydd rhai i Senedd San Steffan gytuno i drosglwyddo’r pwerau.
Dywedodd Edwina Hart bod Llywodraeth y Cynulliad o’r farn bod y newid yn gyfreithiol a’u bod nhw’n bwriadu bwrw ymlaen.
Gobaith y llywodraeth yng Nghymru yw newid y rheolau fel nad oes rhaid i bobol Cymru nodi os ydyn nhw eisiau i’w horganau gael eu hail-ddefnyddio ar ôl iddyn nhw farw.
Mae yna bryder bod nifer yn anghofio gwneud er eu bod nhw’n gefnogol i’r syniad. Dan y sustem newydd byddai’n rhaid i bobol nodi os nad oedden nhw eisiau i’w horganau gael eu defnyddio.
Llywodraeth San Steffan
Ond chwarter awr cyn i’r Gweinidog Iechyd godi ar ei thraed cysylltodd twrnai cyffredinol Llywodraeth San Steffan. Dywedodd fod pryderon ynglŷn â chael system rhoi organau gwahanol yng Nghymru a Lloegr.
Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, yn ddiweddarach ei bod hi wedi cyfeirio at broblemau posib â’r broses wrth drafod â’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, ddydd Llun.
“Mae’r llywodraeth yn gofyn am farn y twrnai cyffredinol am bob Gorchymyn,” meddai.
“Rydym ni’n trin y Gorchymyn yn yr un modd yn union a phob cais deddfwriaethol arall gan y Cynulliad a Llywodraeth y Cynulliad.”
Cefnogaeth
Dywedodd yr Aelod Cynulliad oedd wedi cynnig newid y ddeddf yn y lle cyntaf ei fod yn anhapus nad oedd Llywodraeth San Steffan wedi gwrthwynebu’r cynllun yn gynt.
“Mae blynyddoedd o waith wedi mynd i mewn i’r mater hwn ond dim ond yn y cyfnod hwyr iawn yma mae pobl yn San Steffan yn llefaru eu gofidion,” meddai AC Plaid Cymru, Dr Dai Lloyd.
“Mae’n dangos diffyg parch llwyr at lywodraeth Cymru ac ewyllys democrataidd pobl Cymru. Mae hyn yn ymddangos fel ymgais glir i geisio rhwystro gweithredoedd llywodraeth Cymru sydd â chefnogaeth elusennau a’r cyhoedd.
“Rwyf yn falch bod y Gweinidog dros Iechyd wedi gwneud datganiad ei bod yn bwriadu symud ymlaen gyda’r broses.
“Ffaith galed y mater yw bod oedi yn costio bywydau. Mae rhywun yng Nghymru yn marw pob 11 diwrnod yn aros am drawsblaniad. Mae cefnogaeth ysgubol dros newid y system ledled Cymru.”