Fe fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi heddiw na fydd cyflogwyr yn cael gorfodi gweithwyr i ymddeol yn 65 oed o fis Hydref ymlaen.
Bydd y Gweinidog Cyflogaeth Ed Davey yn datgelu’r newid oedd yn rhan o gytundeb y glymblaid heddiw.
Mae ymgyrchwyr dros hawliau pensiynwyr wedi bod yn galw am gael gwared â’r rheol ers blynyddoedd.
“Mae gan weithwyr hŷn lawer iawn i’w gynnig yn y gweithle ac mae’n bryd cael gwared â’r rheol yma sy’n gwahaniaethu o ran oed,” meddai Ed Davey.
Ond er mai dim ond traean o gwmnïau sy’n gorfodi pobol i adael ar eu pen-blwyddi yn 65 oed, mae rhai arweinwyr busnes yn pryderu am y newid.
Mae Sefydliad y Cyfarwyddwyr wedi beirniadu’r newid – oedd yn rhan o faniffestos etholiadol y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Yn eu barn nhw bydd y newid yn ei gwneud hi’n anoddach i fusnesau gael gwared â staff.
Dan y rheolau newydd bydd disgwyl i gwmnïau gofrestru gweithwyr mewn cynllun bensiwn yn awtomatig. Mae hynny’n debygol o olygu y bydd cyfraniad cwmnïau tuag at bobol sydd eisoes wedi cofrestru yn llai.
“Mae nifer o gwmnïau mawr yn ystyried lleihau eu cyfraniadau am eu bod nhw’n mynd i fod yn talu cyfraniadau mwy o weithwyr,” meddai’r arbenigwr ar bensiynau, David Robertson.