Mae Cymdeithas Bêl Droed Cymru wedi dweud eu bod nhw’n croesawu’r syniad o gynnal Pencampwriaeth Brydeinig yn 2013.

Mae prif weithredwr y gymdeithas, Jonathan Ford wedi cadarnhau bod trafodaethau wedi cael eu cynnal dros ailsefydlu’r gystadleuaeth a ddaeth i ben yn 1984.

Fy ddywedodd Cymdeithas Bêl Droed Lloegr ddoe eu bod nhw’n awyddus i gynnal cyfres o gemau yn erbyn y gwledydd cartref eraill er mwyn dathlu pen-blwydd y gymdeithas yn 150 oed.

Ond fe ddywedodd y Saeson nad oedd ganddyn nhw eisiau gweld ailsefydlu’r Bencampwriaeth Brydeinig.

‘Wrth ein bodd’

Mae’r gwledydd cartref eraill, yn ogystal â Gweriniaeth Iwerddon, eisoes wedi trefnu cystadleuaeth ar y cyd fydd yn dechrau yn Nulyn mis nesaf.

Ond maen nhw wedi croesawu’r syniad o chwarae’r gystadleuaeth un waith eto ymhen dwy flynedd.

“Fe allaf ddweud y byddai Cymdeithas Bêl Droed Cymru wrth ein bodd i gymryd rhan yn y gystadleuaeth pe bai Lloegr yn dychwelyd i’r gystadleuaeth,” meddai Jonathan Ford.

“Dw i ddim yn siŵr sut yn union byddai’r gystadleuaeth yn gweithio ond ry’n ni’n siarad am un gystadleuaeth yn unig.

“Fe fyddai’n gystadleuaeth i ddathlu mewn ystyriaeth i ben-blwydd Cymdeithas Bêl Droed Lloegr yn 150 oed.

“Fe fyddai’n gyfle gwych i’r cefnogwyr gweld y gemau yma’n dychwelyd.”

Noddwyr newydd

Fe ddaw geiriau Jonathan Ford wrth i Gymdeithas Bêl Droed Cymru gyhoeddi cytundeb noddi newydd gyda chwmni Vauxhall.

Mae’r gymdeithas wedi arwyddo cytundeb gyda’r cwmni ceir tan 2014.

Fe fydd Vauxhall hefyd yn noddi’r Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr.