Mae cyn-ymosodwr Cymru, John Hartson ymhlith y ffefrynnau i olynu Dean Holdsworth yn rheolwr Casnewydd.

Fe ymadawodd Holdsworth ac mae ei hyfforddwr cynorthwyol, Matt Bishop wedi cymryd yr awenau gyda Aldershot heddiw.

Mae Holdsworth yn gadael Casnewydd wedi cyfnod llwyddiannus iawn sy’n cynnwys ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Blue Square tymor diwethaf ac mae’r clwb o Gymru yn safleoedd y gemau ail gyfle ar hyn o bryd.

Fe fydd bwrdd Casnewydd yn awyddus i gael rheolwr newydd wrth y llyw i gynnal eu hymdrechion i sicrhau ail ddyrchafiad mewn dau dymor.

Roedd John Hartson wedi ceisio am swydd hyfforddwr Cymru, ond fe gafodd Gary Speed ei benodi gan Gymdeithas Bêl Droed Cymru.

Mae’r cyn-ymosodwr hefyd wedi cael ei gysylltu gyda swydd hyfforddi gyda’i gyn-glwb West Ham.

Mae John Hartson yn awyddus i ddechrau ar yrfa rheoli ac fe allai cael y cyfle i wneud hynny gyda Chasnewydd.

Fe fydd Hartson yn ddewis poblogaidd ymysg y cefnogwyr gyda sawl un yn nodi enw’r Cymro ar negesfyrddau’r clwb fel olynydd posib i Holsdworth.