Mae David Cameron wedi dod dan lach Ed Miliband yn Nhy’r Cyffredin heddiw wrth i arweinydd Llafur gyhuddo’r prif weinidog o drin bancwyr gyda safonau gwahanol i bawb arall.

Mae’r Llywodraeth wedi dod dan bwysau cynyddol yn ddiweddar wrth i dymor talu bonws y bancwyr agosau – sydd wedi ei amcangyfrif yn £7 biliwn eleni – a Llafur yn mynnu dyliai’r llywodraeth fod yn torri lawr ar lefel y bonws mae bancwyr yn ei dderbyn.

Mae Ed Miliband wedi galw am gynnal y dreth o 50% ar bob bonws dros £25,000 – mesur a gyflwynwyd gan y cyn-ganhellor, Alistair Darling, y llynedd.

Dywedodd David Cameron wrth Aelodau Seneddol yn Nghwestiynau’r Prifweinidog heddiw fod y Llywodraeth yn gobeithio dod i gytundeb lle byddai “eu trethi’n mynd i fyny, eu benthyciadau’n mynd i fyny, a’u bonws yn dod i lawr.”

Ond cyhuddwyd y prif weinidog gan Ed Miliband o fethu â chyflawni ei addewidion etholiadol i gyfyngu bonws y bancwyr i ryw £2,000, yn enwedig mewn banciau sydd bellach yn dibynnu ar arian dreth-dalwyr, fel RBS a Lloyds.

Dywedodd arweinydd Llafur fod David Cameron wedi llwyddo i “dorri treth y bancwyr” i bob pwrpas, wrth gwrthod ymestyn y dreth ar fonws a fu’n gyfrifol am godi £3.5 biliwn i Lafur yn 2010.

“Mae’r wlad yn cael llond bol ar esgusodion tila y prif weinidog ynglyn â’r banciau,” meddai Ed Miliband.

Ond ymatebodd David Cameron trwy ddweud na fyddai’n “cymryd pregeth” gan Ed Miliband, gan nad oedd e wedi gwneud dim i wella rheolaeth dros y banciau pan oedd e’n ymgynghorydd yn y Trysorlys.

Bonws o £2.3 miliwn i bennaeth Lloyds?

Daw’r dadlau yn Nhy’r Cyffredin ar yr un diwrnod ag adroddiadau fod prif weithredwr y Lloyds Banking Group, sydd wedi ei gefnogi gan arian y trethdalwr, yn mynd i dderbyn gwerth £2 miliwn o fonws eleni.

Fe fydd gan Eric Daniels, sydd i adael ym mis Mawrth, yr hawl i uchafswm o £2.3 miliwn o fonws – sef 225% o’i gyflog.

Mae e wedi mynd heb ei fonws am y ddwy flynedd diwethaf oherwydd colledion y cwmni, ond yn ôl y BBC, mae Lloyds, sydd wedi ei gynnal â 41% o arian y treth-dalwyr, yn credu na fydd Erid Daniels yn gwrthod ei fonws eleni, wedi iddo greu elw i’r banc yn 2010. Ond mae Lloyds yn gwrthod cadarnhau na gwadu ar hyn o bryd.