Mae yna adroddiadau bod Craig Bellamy wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ôl i ddau ddyn ddioddef anafiadau i’w hwynebau yn y brifddinas dros y penwythnos.

Cafodd capten Caerdydd, 31 oed, ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i’r heddlu barhau gyda’u hymchwiliadau.

Yn ol adroddiadau digwyddodd y ffrae ar Stryd Caroline, neu ‘Chippy Lane’, toc cyn 3.00am ddydd Sul.

Dioddefodd dau ddyn, 20 a 26 oed, fân anafiadau i’w hwynebau.

Dyw Heddlu De Cymru ddim wedi enwi Craig Bellamy, ond maen nhw wedi cadarnhau bod dyn 31 oed wedi cael ei arestio.

“Mae dyn 31 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymchwiliadau barhau,” meddai Heddlu De Cymru mewn datganiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Clwb Dinas Caerdydd eu bod nhw’n “ymwybodol o’r digwyddiad oedd yn ymwneud â un o’n chwaraewyr ni dros y penwythnos ond fe fyddai’n amhriodol gwneud sylw tra bod ymchwiliad yr heddlu yn parhau”.

Llun: Craig Bellamy (ap photo)