Fe fydd gêm ail gyfle trydedd rownd Cwpan yr FA rhwng Caerdydd a Stoke ar 18 Ionawr yn cael ei ddarlledu’n fyw ar S4C.
Fe orffennodd y gêm wreiddiol 1-1 y penwythnos diwethaf ar ôl i ymosodwr Stoke, Tuncay, unioni’r sgôr yn dilyn gôl gynnar gan Michael Chopra.
Mae’r gêm i’w darlledu o Stadiwm Dinas Caerdydd am 7.30pm yn cael ei chyflwyno gan dîm Sgorio wrth i’r sianel dilyn taith tîm y brifddinas i Wembley.
Cyn-chwaraewyr Cymru, Malcolm Allen, John Hartson a Dai Davies fydd yn ymuno â Dylan Ebenezer a Gareth Roberts i gyflwyno ar ran S4C.
Bydd isdeitlau Saesneg ar gael ac mae modd gwylio’r gêm yn fyw ar-lein ar s4c.co.uk.
‘Poblogaidd’
Mae darlledu gemau’r Cwpan FA wedi bod yn boblogaidd iawn ar y Sianel yn y gorffennol.
Fe wyliodd bron 500,000 o gefnogwyr pêl-droed ledled y Deyrnas Unedig darllediad S4C o gêm drydedd rownd rhwng Dinas Bryste a Chaerdydd yn 2010.
“Mae pêl-droed yn chwarae rhan hanfodol yn ein hymroddiad i ddod â’r gorau o bêl-droed Cymreig i’r gwylwyr,” meddai Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, Geraint Rowlands.
“Rydym yn falch iawn i barhau’r berthynas lwyddiannus gyda Chwpan yr FA. Mae’r gemau yma’n llawn ddrama ac emosiwn wrth i daith un o’r timau yn y gystadleuaeth ddod i ben.”