Mae Llywodraeth yr Iseldiroedd wedi rhybuddio puteiniaid sy’n hysbysebu eu gwasanaethau yn ffenestri enwog Amsterdam i ddisgwyl ymweliad gan y dyn treth – wrth i Lywodraeth y wlad weithredu toriadau a dioddef gostyngiadau refeniw.

Mae puteindra wedi blodeuo yn Amsterdam ers yr 1600au ac fe gafodd ei gyfreithloni yn y flwyddyn 2000. Ond, dim ond nawr mae’r Llywodraeth yn dechrau mynnu fod y puteiniaid yn talu treth incwm.

Mae Janneke Verheggen, llefarydd ar ran Gwasanaeth Treth y wlad wedi dweud mai “nawr yw’r amser cywir” i “gynyddu cydymffurfiad”.

Ychydig o hyrwyddwyr o fewn y diwydiant sy’n protestio – ond mae llawer o bobl yn amheus y bydd yn bosibl mynnu cydymffurfiad â rheolau treth mewn diwydiant sy’n cael ei redeg gydag arian parod.

Llun: Ardal olau coch enwog Amsterdam (Chris Yunker – Flikr)