Fe fydd gyrwyr Trenau Arriva Cymru yn mynd ar streic wythnos nesaf mewn ffrae dros gyflogau.
Dywedodd undeb trafnidiaeth RMT y bydd eu haelodau yn gadael y gwaith am 24 awr ar 19 Ionawr. Fe ddaw’r newyddion yn dilyn streic cynt gan y gyrwyr ym mis Rhagfyr.
“Mae RMT wedi gwrthod cynnig diwerth gan y cwmni a fyddai wedi golygu bod ein haelodau ni ar eu colled yn ariannol,” meddai’r Ysgrifennydd Cyffredinol, Bob Crow.
“Fe fyddai ein haelodau ni wedi gorfod goddef amodau gwaith gwael a thoriad cyflog.
“Mae Trenau Arriva Cymru yn parhau i ddangos nad oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn
gwobrwyo gwaith caled a theyrngarwch eu staff. Yr unig beth sydd o ddiddordeb iddyn nhw ydi rhagor o elw er mwyn llenwi pocedi eu cyfranddalwyr.”