Dros y penwythnos fe gafodd y Bala eu croesawu gan Ddinbych ar gyfer eu gem gyntaf yn 2011.

Fe fanteisiodd y Bala o’r cychwyn ar seibiant y gaeaf wrth i’r clo Brian Roberts balu ei ffordd dros y llinell gais ar ôl gwaith da gan y blaenwyr.

Fe lwyddodd y maswr Rhydian Jones gyda’r trosiad cyn iddo sgorio gyda chic adlam ychydig funudau yn ddiweddarach.

Ond fe darodd Dinbych yn ôl wedi cyfnod o bwyso trwm, wrth i’w canolwr hollti’r amddiffyn i dirio dan y pyst. Fe lwyddodd y ti cartref gyda’r trosiad troswyd i leihau mantais y Bala i 7 – 13.

Parhau i bwyso gwnaeth Dinbych ond fe lwyddodd y Bala i’w atal rhag sgorio ac yn raddol fe newidiodd llif y chwarae.

Fe redodd canolwr y Bala, Gareth Macrae 50 llath gan guro amddiffynnwr ar ôl amddiffynnwr cyn pasio’r bel i Elfyn Roberts i sgorio dan y pyst. Gyda’r trosiad a dwy gic gosb ychwanegol fe aeth yr ymwelwyr 7-26 ar y blaen cyn hanner amser.

Ail hanner

Ar ddechrau’r ail hanner fe ddaeth y tîm cartref yn ôl mewn i’r gêm gyda dwy gic gosb er gwaethaf colli eu prop i’r gell cosb am ddeg munud.

Ond wedi dychwelyd prop Dinbych fe ail gydiodd y Bala ei gafael ar y gêm gan greu sawl cyfle i groesi’r llinell gais.

Roedd eilyddio’r ymwelwyr yn effeithiol wrth i Dafydd Roberts ddod i’r cae wedi anaf i’r clo Elfyn Roberts ac Euros Jones yn dod ymlaen ymysg yr olwyr. O sgrym 10 llath o linell Dinbych fe basiodd Dochan Roberts y bêl i Euros Jones a drosglwyddodd y bel i’r asgellwr Chris Roberts dirio yn y cornel i leihau’r bwlch i 13-31.

Fe lwyddodd y Bala lwyddo eto gyda symudiad tebyg o’r sgrym gyda Dochan Roberts yn codi’r bêl o fon y sgrym ac yn pasio i Jones a sgoriodd y cais ei hun y tro yma.

Ond gwrthod gwnaeth Dinbych i roi’r ffidil yn y to wrth iddynt groesi’r llinell gais am yr ail dro.

Er hyn y Bala, a’i maswr Rhydian Jones gafodd y gair olaf wrth iddo gasglu pêl rydd a
chroesi’r llinell gais o dan y pyst.

Fe fydd Clwb Rygbi Y Bala yn herio Y Rhyl yr wythnos yma.

Adroddiad gan Tony Parry