Prestatyn 2-0 Y Bala
Mae Prestatyn yn parhau i fod yn bedwerydd yn Uwch Gynghrair Cymru ar ôl curo’r Bala ar Ffordd Bastion.
Fe sgoriodd yr ymosodwr, Jon Fisher-Cooke dwy gôl yn yr hanner cyntaf i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r tîm cartref.
Mae’n fuddugoliaeth holl bwysig i dîm Neil Gibson wrth iddynt geisio sicrhau eu lle yn chwech uchaf Uwch Gynghrair Cymru cyn i’r adran rhannu’n ddwy dechrau mis nesaf.
Llanelli 2-1 Hwlffordd
Mae Llanelli yn un pwynt tu ôl i Brestatyn ar ôl ennill yn erbyn Hwlffordd ar Barc Stebonheath.
Fe sgoriodd Craig Moses wedi hanner awr i roi tîm Andy Legg ar y blaen cyn i Craig Williams sydd wedi ymuno ar fenthyg wrth y Seintiau Newydd, ychwanegu’r ail bum munud yn ddiweddarach.
Ond fe ymatebodd yr ymwelwyr yn dda wedi’r egwyl ac fe hanerodd Gareth Elliott fantais Llanelli gyda gôl wedi 66 munud.
Fe ddaliodd Llanelli yn gadarn i sicrhau pwyntiau llawn ond roedd yn fuddugoliaeth gostus i Andy Legg gyda Antonio Corbisiero yn cael ei anafu cyn y gêm a Craig Moses a Jason Bowen yn dioddef anafiadau yn ystod y gêm.
Aberystwyth 2-1 Airbus UK
Mae gobeithion Aberystwyth o gyrraedd chwech uchaf yr adran wedi gwella ar ôl iddynt guro Airbus UK ar Goedlan y Parc.
Fe aeth tîm Alan Morgan ar y blaen pan sgoriodd Ricky Evans wedi 54 munud.
Ond fe darodd yr ymwelwyr yn ôl bedwar munud yn ddiweddarach gydag Andy Moran yn sgorio cyn i Ricky Evans sgorio ei ail gôl o’r gêm wedi ychydig dros awr o’r chwarae i sicrhau’r fuddugoliaeth.
Mae Aberystwyth dau bwynt tu ôl i Bort Talbot sydd yn y chweched safle ar hyn o bryd, ond mae ganddyn nhw un gêm ychwanegol i chwarae.