Mae myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi lansio ymgyrch i gael prynhawniau dydd Mercher yn rhydd.
Dywed aelod blaenllaw o’r Undeb Myfyrwyr sy’n cefnogi’r ymgyrch y byddai trefniant o’r fath yn llesol i’r Gymdeithas Gymraeg ym Mangor gan y gallai ddarparu prynhawn i’r di-gymraeg ddysgu’r iaith.
Eisoes, mae llawer o Brifysgolion ledled Prydain yn caniatáu i fyfyrwyr gael brynhawn Mercher yn rhydd gan fod gemau chwaraeon y British Universities & College Sport yn cynnal twrnameintiau bryd hynny.
Mae hefyd yn gyfle i fyfyrwyr Prifysgolion gymryd rhan a chyfrannu’n allgyrsiol i glybiau a chymdeithasau neu wirfoddoli.
‘Llesol’
Mae Sharyn Williams, Is Lywydd Materion Cymreig a’r Gymuned yr Undeb Myfyrwyr wedi dweud wrth Golwg360 ei bod yn credu y byddai trefniant o’r fath yn llesol i Gymry Prifysgol Bangor.
“Bydd amser rhydd ar brynhawniau dydd Mercher yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr allu ymarfer ar gyfer pethau fel Eisteddfodau a chryfhau’r Gymdeithas Gymreig ym Mangor,” meddai.
“Hefyd, byddai myfyrwyr di-gymraeg sydd eisiau dysgu’r iaith Gymraeg yn gallu gwneud modiwl opsiynol ar y dydd Mercher a dysgu mwy am y gymdeithas.
“Gan fod ffioedd a chostau byw wedi mynd i fyny – byddai prynhawn dydd Mercher i ffwrdd hefyd yn rhoi prynhawn ychwanegol iddyn nhw weithio rhan amser,” meddai.
Cyn i’r ddeiseb ddod yn fyw ar y we ddoe – roedd 40 o fyfyrwyr wedi cefnogi’r ymgyrch yn barod, meddai.