Mae’r Aelod Seneddol a blediodd yn euog o hawlio £14,000 o gostau trwy dwyll wedi cyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo.
Dywed Eric Illsley, AS Canol Barnsley, ei fod yn edifar am ei weithredoedd ac y bydd yn ymddiswyddo cyn iddo gael ei ddedfrydu’r mis nesaf.
Fe ddaw’r newyddion yn rhyddhad i Aelodau Seneddol oedd yn poeni byddai mwy o niwed yn cael ei wneud i enw’r Senedd.
Roedd yna bosibiliad y gallai Eric Illsley fod wedi parhau i dderbyn ei gyflog pe bai’n cael ei ddedfrydu i lai na 12 mis yn y carchar.
Fe wnaeth y newyddion yma ysgogi’r Prif Weinidog, David Cameron ac arweinydd y Blaid Lafur, Ed Milliband i alw arni i roi’r gorau i’w swydd.
“Fe hoffwn ni ymddiheuro i fy etholwyr, fy nheulu a ffrindiau am yr embaras a’r straen mae fy ngweithredoedd wedi achosi,” meddai Eric Illsley.
“Fe fyddai’n ymddiswyddo o’r Senedd cyn i mi ymddangos o flaen y llys nesaf.”