Bron i hanner canrif wedi darlledu darlith ‘Tynged yr Iaith’ gan Saunders Lewis ar y radio, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyflwyno ei syniadau ar gyfer sicrhau dyfodol Cymunedau Cymraeg ddydd Sadwrn.
Fe fydd ‘Tynged yr Iaith 2’ yng nghwmni Menna Machreth, Ceri Cunnington a phlant y Parc yn cael ei gynnal yng nghell y Gymdeithas ym Mlaenau Ffestiniog.
Fe fydd i’w weld hefyd yn fyw ar wefan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 2pm, ddydd Sadwrn.
“Ers darlledu darlith Saunders Lewis mae Cymru a’n cymunedau wedi newid, dyma ni felly yn mynd ati i gyhoeddi gweledigaeth newydd ar gyfer ein cymunedau,” meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wrth Golwg360.
“Dim ond y dechrau fydd hyn, rydyn ni’n gobeithio y bydd ein haelodau yn cael eu hysbrydoli i fod o ddifrif am ddeffro a diogelu ein cymunedau Cymraeg,” meddai’r Cadeirydd.
‘Iaith fyw a chymunedol’
Yr iaith Gymraeg fel “iaith fyw a chymunedol” fydd prif destun araith y Gymdeithas fydd yn cael ei thraddodi gan dri aelod gwahanol.
Mae disgwyl clywed am sut y mae “ymwybyddiaeth a balchder newydd” wedi datblygu hanner canrif ers traddodi araith fawr Saunders Lewis.
Ond, bydd y Gymdeithas hefyd yn sôn am “beryglon newydd” sy’n wynebu cymunedau. Wrth feddwl am y Gymraeg fe fyddan nhw’n ystyried:
“ Yr her a’r cwestiwn yn awr yw ai ar ffurf symbolaidd yn unig neu fel iaith gymunedol lawn y gellir ei defnyddio ym mhob agwedd ar fywyd y gwelwn?”
Llun: Saunders Lewis (o’i wefan goffa)