Mae bygythiad o streic gan yrwyr trenau’r tiwb yn Llundain ar ddiwrnod y briodas frenhinol ym mis Ebrill wedi arwain at alwadau am dynhau’r gyfraith.
Heddiw, addawodd y Prif Weinidog David Cameron y byddai’n ystyried dadleuon dros newid y gyfraith, ond dywedodd ei fod yn credu bod y gyfraith bresennol yn ddigonol ar hyn o bryd.
Dywedodd ei fod e’n credu bod cyfreithiau Margaret Thatcher yn parhau i “weithio’n dda” ond ychwanegodd nad oedd e’n dymuno gweld “cyfres o streiciau anghyfrifol” ar sail y rheiny.
Mae arweinwyr undeb wedi bygwth streiciau i’r tiwb yn Llundain ar 29 Ebrill – diwrnod priodas y tywysog William a Kate Middleton.
O dan y gyfraith presennol, all streiciau ond ddigwyddodd os bydd mwy o aelodau’r undeb yn pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol na sy’n pleidleisio yn ei erbyn.
Ond mae Torïaid blaenllaw, gan gynnwys Boris Johnson, yn dymuno gweld y gyfraith yn cael ei chryfhau fel bod angen mwyafrif o’r holl aelodau sydd â hawl i bleidleisio yn gorfod pleidleisio o blaid y cynnig, yn hytrach na dros hanner y rhai a benderfynnodd pleidleisio.
“Dwi’n gwybod bod achos cryf yn cael ei roi o blaid newid,” meddai David Cameron heddiw. “Dwi’n hapus iawn i ystyried y dadleuon hyn – dwi eisiau sicrhau bod corff teg o gyfraith Ewrop ganddon ni yn y wlad hon.
“Dwi yn meddwl bod cyfreithiau’r 1980au yn gweithio’n dda ar hyn o bryd. Does ganddon ni ddim bwriad i’w newid ar y funud ond dwi’n ddigon hapus i ystyried y ddadl, achos dwi ddim eisiau gweld cyfres o streiciau anghyfrifol, yn enwedig pan nad ydyn nhw’n cael eu cefnogi gan y mwyafrif sy’n cymryd rhan.”