Mae’n mynd i fod yn gyfnod diddorol i’r anoracs gwleidyddol yng Nghymru. Dau reffrendwm ac etholiad o fewn deufis. R’yn ni’n cael ein sbwylio yn wir.

Yn anffodus does gan sylwebwyr Lloegr ddim yr un wledd i edrych ymlaen ato, dim ond asgwrn anemig y refferendwm ar newid y sustem bleidleisio, a falle mai dyna pam eu bod nhw’n gwyntyllu sïon bod y Prif Weinidog, David Cameron, yn mynd i alw Etholiad Cyffredinol ym mis Mai.

Dyma’r sail resymegol y tu ôl i hyn:

  • Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn bartneriaid annibynadwy yn y glymblaid. Dyw nifer o’u ASau eu hunain ddim yn hapus gyda chyfeiriad y glymblaid, ac mae eu cefnogaeth wedi cwympo’n sylweddol. Pe baen nhw’n colli’r refferendwm ar newid y system bleidleisio fe allai’r glymblaid chwalu, gan adael Cameron yn arwain llywodraeth leiafrifol ansefydlog. Drwy alw etholiad fe allai Cameron droi  amhoblogrwydd y Dems Rhydd yn fantais, dwyn sawl un o’u seddi nhw, a sicrhau mwyafrif.
  • Fe fydd y toriadau yn dechrau brathu dros y misoedd nesaf ac fe fydd yr adferiad yn un araf. Fe fyddai’n well galw etholiad cyn bod poblogrwydd y Ceidwadwyr yn disgyn i’r un lefel a’r Democratiaid Rhyddfrydol.
  • Mae’r Blaid Lafur yn dechrau magu stêm yn y polau piniwn, ond dyw Ed Miliband heb ennill ei blwyf eto.

Ffynhonell y sïon yw’r blog yma a’r darn barn yma yn y Telegraph. Mae’n werth cymryd y darn papur newydd gyda pinshad o halen – bydd unrhyw un sy’n darllen y Telegraph yn ddyddiol yn gwbod nad ydyn nhw wrth eu bodd â’r glymblaid.

Pe bai’r sïon yn wir fe fyddai’n amlwg yn cael tipyn o effaith ar Gymru. Mae’n siŵr y bydden nhw’n penderfynu cynnal etholiad y cynulliad a’r Etholiad Cyffredinol yr un diwrnod, ac fe fyddai’r cyd-destun Prydeinig yn drychineb i Blaid Cymru.

Gwledd hyd yn oed yn fwy i anoracs gwleidyddol Cymru felly. Gormod o wledd o bosib… fe fydd gan bawb llosg gylla gwleidyddol erbyn yr haf…