Mae’r drefn o orfodi swyddogion yr heddlu i ddechrau ar y rheng isaf cyn gweithio’u ffordd i fyny yn gwbl anaddas bellach, yn ôl gweinidog yn y Llywodraeth heddiw.

Dywedodd Nick Herbert mai “dyma’r amser” i fynd i’r afael â’r cwestiwn a ddylai lluoedd ar draws Cymru a Lloegr ddechrau dod â swyddogion talentog i mewn ar bob lefel.

Wrth siarad mewn cynhadledd cenedlaethol yn Neuadd y Ddinas Llundain, dywedodd y gweinidog o’r Swyddfa Gartref fod yr heddlu yn wynebu “newidiadau digyffelyb” ar hyn o bryd.

“Mae angen i’r gwasanaeth fod yn fwy agored, yn fwy cynrychioladol ac amrywiol. Mae angen i ni ddenu’r gorau,” meddai.

Galw am newid

Mae ymgyrchwyr dros newid wedi dadlau y byddai agor y drws fel hyn yn newid delwedd plismona ym Mhrydain er gwell.

Dan y system bresennol, mae pob swyddog yn gorfod mynd trwy’r un hyfforddiant sylfaenol, gan gynnwys treulio amser ar y stryd.

Mae rhai yn dadlau fod hyn yn atal yr heddluoedd rhag denu pobl draw o rannau eraill yr heddlu, lle mae’n bosib y byddai eu sgiliau o fantais.

Maen nhw’n dymuno gweld yr heddlu yn defnyddio polisi tebyg i’r lluoedd arfog, a’r gwasanaeth carchardai, sy’n fwy hyblyg o safbwynt recriwtio.

Dim plesio pawb

Ond mae’r cynnig wedi ei wrthwynebu gan y Gymdeithas Uwch Swyddogion Heddlu, sy’n dweud bod eu cynllun dyrchafu cyflym yn gwneud y gwaith hynny eisioes.

Yn ystod y gynhadledd, dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Manceinion, Peter Fahy ei bod hi’n “anodd gweld” sut y byddai pobl o’r tu allan yn gallu dod i mewn a chymryd cyfrifoldebau sydd â risg uchel a chyfrifoldebau mawr.

“Mae angen y profiad o fod yn gwnstabl ar bobl, o ddefnyddio pwyll proffesiynol ar y strydoedd,” meddai.

Daw’r gynhadledd yn sgîl ymchwiliad i faterion crefydd a hil gan Faer Llundain, Boris Johnson.

Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad y byddai caniatau pobl i ymuno ar wahanol haenau yn creu manteision sylweddol ac yn trawsnewid proffeil gweithwyr yr heddlu.

Mae’r llywodraeth wedi comisiynu dau adolygiad i ysytyried materion o arweiniad a recriwtio o fewn yr heddlu.