Mae bachgen 16 oed wedi gwadu lladd merch 15 oed a gafodd ei chanfod mewn coedwig yn agos i Ben-y-bont llynedd.

Fe gafodd corff Rebecca Aylward o Faesteg ei ganfod gydag anafiadau i’w phen mewn coedwig yn Abercynffig ger Pen-y-bont ar Ogwr ar 24 Hydref.

Gwelodd ei theulu hi am y tro olaf yn Sarn Hill, Sarn tua 12.30pm ddydd Sadwrn, 23 Hydref. Cafodd ei gollwng yno gan berthnasau er mwyn iddi ymweld â ffrind.

Cysylltodd ei mam gyda’r heddlu’r prynhawn hwnnw i ddweud ei bod hi ar goll, ar ôl iddi beidio â dychwelyd adref.

Roedd y bachgen, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, wedi ymddangos o flaen Llys y Goron Caerdydd heddiw i nodi sut roedd yn pleidio i’r cyhuddiad.

Mae’n cael ei gadw mewn llety diogel tan fydd yr achos yn ei erbyn yn dechrau ym mis Mawrth.

Llun: Rebecca Aylward