Fe fydd Tony Blair yn ymddangos o flaen pwyllgor Ymchwiliad Irac am yr ail dro cyn diwedd y mis.
Mae disgwyl i gyn Brif Weinidog Llywodraeth San Steffan i roi tystiolaeth i’r ymchwiliad o dan arweinyddiaeth Syr John Chilcot ar 21 Ionawr.
Fe fydd gwrandawiad Tony Blair yn dechrau am 9.30am ac mae disgwyl iddo barhau am bedair awr a hanner.
Fe fydd cyn-Ysgrifennydd Tramor Llywodraeth San Steffan, Jack Straw yn ogystal â phennaeth lluoedd amddiffyn Prydain, y Llynghesydd Arglwydd Boyce, yn ymddangos o flaen y pwyllgor ymchwilio hefyd.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet, Syr Gus O’Donnell wedi cael ei alw i roi tystiolaeth am y tro cyntaf.
Fe fydd y gwrandawiadau olaf yn dechrau ar 18 Ionawr phennaeth yr awyrlu, Syr Glenn Torpy yn rhoi tystiolaeth.