Mae tri aelod o staff gwesty ym Mauritius yn cael eu dal yn y ddalfa ar gyhuddiadau’n ymwneud â llofruddiaeth Gwyddeles a fu farw yno tra ar ei mis mêl.
Fe gafodd corff Michaela McAreavey ei ganfod yn ei hystafell yng Ngwesty Legends ar yr ynys 500 milltir i’r dwyrain o Madagasgar ym Môr yr India. Mae’r awdurdodau wedi dweud iddi gael ei thagu.
Roedd y dynion sydd wedi cael eu cyhuddo yn cael eu cyflogi gan y gwesty. Mae dau ohonyn nhw wedi cael eu cyhuddo o lofruddio Michaela McAreavey.
Maen nhw wedi cael ei enwi fel Abinash Treeboowoon, 29 oed a Sandip Moneea, 41 oed.
Mae trydydd dyn Raj Theekoy, 33 oed, yn wynebu cyhuddiad o gynllwynio gyda’r ddau ddyn arall.
Fe ddywedodd comisiynydd heddlu Mauritius, Tishur Ranpersad bod yna lawer o heddweision profiadol yn gweithio ar yr achos yma gyda’r heddlu’n dweud ei fod yn achos “anghyffredin.”
Doedd Michaela McAreavey ond wedi bod yn briod â’i gŵr John, sy’n chwaraewr pêl droed Gwyddelig, ers tua phythefnos.
Roedd Michaela McAreavey yn athrawes Wyddeleg yn County Tyrnone ac yn ferch i reolwr tîm pêl-droed Gwyddelig Tyrone, Micky Harte.
Llun: Golygfa o ynys Mauritius (o wefan Wikipedia)