Mae’r Taliban wedi ymosod ar wasanaethau gwybodaeth gudd Afghanistan heddiw gan ladd pedwar o bobl ac anafu dros 30 mewn dau ymosodiad gwahanol.
Yn gynnar fore heddiw yn y brifddinas Kabul, fe wnaeth hunanfomiwr ar feic modur chwythu’i hun i fyny wrth fws mini oedd yn cario gweithwyr gwasanaethau cudd – gan ladd dau berson ac anafu 29, meddai awdurdodau a’r Heddlu.
Hefyd, tuag awr yn ddiweddarach yn nhalaith ddwyreiniol Kunar, fe wnaeth bom ochr ffordd ladd cadfridog oedd yn gweithio i’r gwasanaethau gwybodaeth gudd a’i yrrwr, gan anafu dau warchodwr.
Mae’r Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb am y ddau ymosodiad.
Mae Gweinyddiaeth Amddiffyn Afghanistan yn amcangyfrif fod gan y Taliban rhwng 25,000 a 35,000 o bobl.
Llun: Map o Afghanistan yn dangos lleoliad Kabul a Kunar (o wefan Wikipedia)