Mae Abertawe wedi derbyn hwb gyda’r newyddion bydd eu capten yn dychwelyd i chwarae yn gynharach na’r disgwyl.

Roedd Garry Monk yn wynebu tri mis ar yr ystlys ar ôl dioddef anaf yn erbyn Colchester dydd Sadwrn.

Yn wreiddiol roedd yr Elyrch yn pryderu ei fod wedi gwneud niwed i hen anaf a oedd wedi gorfodi iddo golli’r rhan fwyaf o dymor 2006/7. Fe fyddai hynny wedi golygu y byddai wedi bod yn absennol am y naw mis nesaf.

Wrth lwc, fe wnaeth sgan ddatgelu nad oedd dim niwed i’r hen anaf ond roedd disgwyl er hynny y byddai’n wynebu colli tri mis o’r tymor.

Roedd Monk wedi cyfarfod gydag arbenigwr ddoe ac mae ef wedi dweud y bydd yr amddiffynwr yn dychwelyd chwarae mewn chwech i wyth wythnos.

“Dw i’n dal ddim yn hapus i fod allan gydag anaf, ond mae’n ganlyniad da gan feddwl y gallen ni fod wedi bod allan am naw mis,” meddai Garry Monk.

“Roeddwn ni’n gwybod bod rhywbeth o’i le gan fod pwysau’r chwaraewr wedi mynd yn syth ar fy nghoes.

“Ry’ chi wastad yn mynd i feddwl y gwaethaf, ond rwy’n ddiolchgar nad oedd mor ddifrifol â hynny.

“Fe fydd rhaid i mi nawr gweithio’n galed i ddychwelyd cyn gynted, ac rwy’n targedu diwedd mis Chwefror neu ddechrau mis Mawrth.

“Mae’n mynd i fod yn ddiwedd cyffrous i’r tymor gan fod gennym ni gyfle gwych i gyflawni rhywbeth arbennig, ac rwyf am fod yn rhan o hynny.”