Mae ffigurau sydd wedi’u cyhoeddi heddiw’n awgrymu bod diwydiant twristiaeth Cymru wedi dal ei dir yn dda yn wyneb anawsterau 2010.
Mae’r ffigurau wedi’u cyhoeddi fel rhan o ganlyniadau’r UK Tourism Survey o’r cyfnod rhwng Ionawr a Medi 2010.
Er bod gostyngiad bach yn nifer yr ymweliadau â Chymru, roedd cynnydd bach yn y nifer o nosweithiau a arhoswyd yng Nghymru – ac fe wnaeth pob ymwelydd wario mymryn yn fwy ar gyfartaledd.
Mae’r ffigurau – sy’n cynnwys misoedd prysuraf yr haf – yn dangos bod pobl Prydain wedi bod ar 7.28m o ymweliadau â Chymru rhwng Ionawr a Medi 2010, gyda’r ymweliadau hynny’n cynnwys aros am o leiaf un noson yng Nghymru.
Mae hyn yn ostyngiad o 1% o’i gymharu â’r ffigur ar gyfer yr un cyfnod yn 2009 ( sef 7.36 miliwn).
Rhwng Ionawr a Medi 2010, bu gostyngiad o 4% yng nghyfanswm yr ymweliadau gan bobl y Deyrnas Unedig tra oedden nhw’n ymweld o fewn y wlad, o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2009.
Cynnydd
Arhosodd pobl o’r Deyrnas Unedig gyfanswm o 28.89 miliwn o nosweithiau yng Nghymru, sef cynnydd o 1% o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2009.
Rhwng Ionawr a Medi 2010, gwariodd yr ymwelwyr â Chymru £1,237m o’i gymharu â £1,207m yn yr un cyfnod yn 2009, sef cynnydd o 3%.
Yng Nghymru, gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn gwyliau byr (1-3 noson) – cynnydd o 10% o ran nifer y teithiau, cynnydd o 8% o ran nifer y nosweithiau, a chynnydd o 23% o ran gwariant, o’u cymharu â 2009.
‘Calonogol’
Fe ddywedodd y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones fod yr “hinsawdd economaidd â’r tywydd gwlyb” am y trydydd haf yn olynol, yn golygu ei bod wedi profi’n flwyddyn “anodd iawn i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru.”
“Mae’n galonogol gweld ffigurau sy’n dangos nad oedd pethau mor wael ag a ragwelwyd, a bod Cymru wedi dal ei thir yn dda a bod y canlyniadau’n well na’r cyfartaledd ar gyfer Prydain,” meddai Alun Ffred Jones sy’n dweud y bydd y diwydiant yn “parhau i fod yn un o’n prif flaenoriaethau”.
Arolwg cenedlaethol o brynwyr yw’r UK Tourism Survey. Mae’n mesur swmp a gwerth ymweliadau gan dwristiaid sy’n byw yn Deyrnas Unedig.
Bydd ffigurau ar gyfer y flwyddyn gyfan ar gael ym mis Ebrill 2011.