Ymddangosodd nyrs ardal o flaen pwyllgor disgyblu yng Nghaerdydd ddoe i ateb honiadau iddi fod wedi cynnal perthynas rywiol gyda bachgen 14 oed.

Penderfynodd pwyllgor disgyblu’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) ohirio’r gwrandawiad yn erbyn Nyrs Victoria Horsley am dri mis er mwyn rhoi cyfle i’w thîm cyfreithiol baratoi ar gyfer herio’r honiadau yn ei herbyn.

Roedd y nyrs ardal 36 oed, o Tyn-y-Gongl ym Môn, wedi cael ei rhybuddio yn erbyn unrhyw fath o gysylltiad â’r bachgen ar ôl i’w deulu wneud cwyn yn ei herbyn.

Ond flwyddyn yn ddiweddarach, fe wnaeth y teulu gwyno eto gan honni ei bod hi’n dal i gyfarfod y bachgen yn gyfrinachol.

Er i’r heddlu edrych ar yr achos, penderfynwyd peidio â dwyn achos oherwydd ‘anghysondebau’ yn yr hyn a ddywedodd y bachgen.

Fe fydd y pwyllgor disgyblu ymhen tri mis yn ystyried yn ogystal honiadau eraill llai difrifol iddi ganiatáu i ddau fachgen o dan 17 oed yrru un o gerbydau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gogledd Orllewin Cymru.

Mae’r holl honiadau’n ymwneud â chyfnod rhwng 2005 a 2007.