Mae’r llifogydd yn Awstralia wedi ymledu i ganol tref Brisbane heddiw gan lifo i mewn i gymdogaethau gwag ac achosi’r llifogydd gwaethaf mewn 100 mlynedd.

Yn ôl maer y ddinas, mae’n bosibl y gallai o leiaf 20,000 o gartrefi ddioddef difrod o ganlyniad i’r llifogydd.

Eisoes, mae dŵr wedi cyrraedd top goleuadau traffig mewn rhai ardaloedd o Brisbane, trydedd dinas fwyaf Awstralia.

Mae‘r llifogydd wedi lladd o leiaf 22 o bobl ac mae dros 50 arall ar goll yng ngogledd ddwyrain Queensland ers i’r llifogydd parhaus ddechrau fis Tachwedd.

Heddiw, roedd pobl Brisbane – sydd wedi bod yn paratoi ar gyfer y llifogydd ers dau ddiwrnod – wedi symud dodrefn drud i loriau uchaf eu tai a rhai hyd yn oed wedi pentyrru eitemau ar doeau eu tai.

Eisoes, mae’r llifogydd wedi effeithio dinas Toowoomba a Dyffryn Lockyer.

Mae’r Prif Weinidog wedi dweud bod y llifogydd yn Brisbane yn debygol o fod yn waeth na’r llifogydd yn 1974 laddodd 14 o bobol a dinistrio sawl rhan o’r ddinas.