Mae prif hyfforddwr y Dreigiau, Paul Turner yn awyddus i weld ei dîm yn rhoi gêm galed i Toulouse pan fydd y rhanbarth o Gymru yn wynebu pencampwyr Ewrop yn Stade Ernest Wallon dydd Sadwrn.
Mae gobeithion y Dreigiau yn Ewrop wedi dod i ben ers tro, ond mae Paul Turner yn awyddus i sicrhau perfformiad da yn erbyn y Ffrancwyr.
“Mae Toulouse ar frig rygbi Ewrop, yn bencampwyr presennol yn ogystal â’r nifer fwyaf o lwyddiannau yn y gystadleuaeth. Maen nhw’n dîm y mae pawb yn teimlo cyffro wrth gael chwarae yn eu herbyn,” meddai Turner.
“Fe fyddai’r gêm yma’n dasg enfawr i ni hyd yn oed pe baen ni ar frig Cynghrair Magners. Fe fydd rhaid i ni fod yn feiddgar.
“Maen nhw’n dîm o safon ac fe fyddwn nhw’n cosbi ni os fyddwn ni’n colli disgyblaeth a hefyd os na fyddwn ni’n gallu dal gafael ar feddiant. Fe fydd rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn cael y pethau bach yn iawn.”
Newyddion y tîm
Mae Nathan Brew yn dychwelyd i chwarae i’r Dreigiau am y tro cyntaf ers anafu ei droed mewn gêm gyfeillgar yn erbyn y Cornish Pirates dros yr haf.
Mae Nathan Brew wedi bod yn chwarae i Gasnewydd wrth iddo gryfhau ei ffitrwydd a gwthio ei ffordd yn ôl mewn i garfan y Dreigiau.
Mae Dan Lydiate sydd wedi bod yn gwella o anaf o gyfres o anafiadau hefyd wedi cael ei gynnwys yn y garfan ar gyfer y daith i Ffrainc.
Mae disgwyl hefyd i’r mewnwr, Wayne Evans dychwelyd i chwarae ar ôl gwella o anaf i’w goes.
Carfan y Dreigiau
Cefnwyr – Will Harries, Pat Leach, Adam Hughes, Aled Brew, Nathan Brew, Tom Cheeseman, Ashley Smith, Matthew Jones, Jason Tovey, James Leadbeater, Wayne Evans.
Blaenwyr – Phil Price, Gethin Robinson, Ben Castle, Pat Palmer, Steve Jones, Tom Willis, Rob Sidoli, Luke Charteris, Adam Jones, Scott Morgan, Toby Faletau, Lewis Evans, Robin Sowden-Taylor, Gavin Thomas, Dan Lydiate, Hugo Ellis