Rhaid rhoi llawer mwy o sylw a blaenoriaeth i anghenion cymunedau Cymraeg os ydym am sicrhau dyfodol i’r Gymraeg fel iaith fyw.
Dyna fydd neges Aelod Cynulliad Aberconwy, Gareth Jones, wrth arwain dadl fer ar ddyfodol cymunedau Cymraeg yn y Senedd heddiw.
Dywed fod yn rhaid ystyried anghenion cymunedau fel cyfanrwydd yn holl waith y Llywodraeth, a bod hyn mor wir am yr iaith Gymraeg ag am unrhyw faes arall.
“Mae yna dueddiad o hyd i weld materion yn ymwneud â’r iaith fel rhyw faes ar ei ben ei hun, yn hytrach na bod dyfodol yr iaith yn cael ei ystyried yng nghyd-destun amddiffyn ac ehangu’r cymunedau sy’n ei chynnal,” meddai.
“Y ffaith syml amdani ydi na all y Gymraeg ddim byw mewn gwagle. Cyfrwng ar gyfer cyfathrebu ydi unrhyw iaith wedi’r cwbl, ac nid endid ynddi’i hun. Os bydd y cymunedau o bobl sy’n defnyddio’r iaith yn dadfeilio, a diffyg rhwydweithiau newydd yn cael eu creu, edwino fydd y defnydd o’r Gymraeg hefyd.
“Mae hefyd angen edrych o ddifrif os ydi’r defnydd mwyaf effeithiol yn cael ei wneud o’r arian sy’n dod i S4C ar gyfer hybu economi cymunedau Cymraeg.”
Croesawu
Dywed Gareth Jones ei fod yn croesawu strategaeth iaith newydd Llywodraeth y Cynulliad, Iaith Fyw: Iaith Byw a gafodd ei lansio gan y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones yn Llanrwst y mis diwethaf.:
“Un o’r pethau mwyaf calonogol i mi ynghylch y strategaeth ydi ei bod hi am y tro cyntaf yn nodi’r angen am gynyddu’r nifer o bobl sy’n defnyddio’r iaith yn ogystal â’r nifer sy’n gallu ei siarad,” meddai.
“Yr hyn sy’n rhaid inni ei sylweddoli ydi bod gwarchod Cymreictod ardaloedd traddodiadol Gymraeg fel Dyffryn Conwy yn fy etholaeth yn gwbl allweddol i gyflawni amcanion o’r fath.
“Yn y cyfrifiad diwethaf a oedd yn dangos cwymp sylweddol yn y nifer o gymunedau lle mae dros 70 y cant yn siarad yr iaith, roedd yna ormod o geisio hunan gysur ar sail y cynnydd oedd yn cael ei ddangos mewn gwahanol rannau o Gymru.
“Ond mae’n rhaid inni gydnabod nad ydi’r math o gynnydd a welwyd mewn ardaloedd mwy Seisnigedig o Gymru – er cystal ei gael – ddim yn gwrthbwyso colledion yn y cadarnleoedd. Os ydi’r Gymraeg am barhau fel iaith fyw, rhaid fydd sicrhau ei bod yn dal ac yn cryfhau ei thir ym Mlaenau Ffestiniog yn ogystal ag ennill tir ym Mlaenau Gwent.”
Cyfrifiad 2011
Gan gyfeirio at Gyfrifiad eleni a fydd yn cael ei gynnal ar 27 Mawrth, ychwanegodd Gareth Jones:
“Rhaid sicrhau bod ein dealltwriaeth o gymdeithasiaeth iaith wedi gwella ac aeddfedu o gymharu â’r hyn oedd ddeng mlynedd yn ôl. Os oes cwymp pellach yn nifer yr ardaloedd sydd â’r Gymraeg yn brif iaith iddyn nhw, mae argyfwng yn ein hwynebu, ac argyfwng sy’n rhaid ymateb yn effeithiol ac yn gadarnhaol iddo.
“Wrth sôn am ddyfodol cymunedau Cymraeg, nid sôn yr ydan ni am iaith yn unig, ond am ddyfodol rhywbeth sydd wedi bod yn rhan gwbl allweddol o hunaniaeth a diwylliant y cymunedau hynny am bymtheg canrif a mwy. Unwaith y bydd y llinyn arian hwnnw’n cael ei dorri, rydan ni’n tlodi’r gwead diwylliannol hwnnw sy’n gymaint rhan o’n hetifeddiaeth fel cenedl.”