Ar drothwy’r tymor geni ŵyn bach, caiff merched beichiog eu rhybuddio o beryglon helpu gyda gwaith ŵyna ar ffermydd.
Mae’n bosibl i ferched beichiog sy’n dod i gyswllt gyda da byw beichiog ddal heintiau difrifol sy’n peryglu eu hiechyd eu hunain a’u plant, yn ôl y Sefydliad Innermost Secrets.
Fe ddywedodd y meddyg ymgynghorol, R Bryan Beattie o wefan Innermost Secrets wrth Golwg360 ei fod yn “broblem” bod llawer o ferched sy’n byw a gweithio ar ffermydd yn helpu gyda’r broses o ŵyna pan maen nhw’n feichiog – gan fod hyn yn peryglu eu hiechyd.
Ac, er bod yr achosion o heintiadau ac erthyliadau dynol yn nifer fach iawn o ganlyniad i gyswllt gyda defaid beichiog – mae’n bwysig, meddai, fod merched beichiog yn ymwybodol o’r risgiau i’w hiechyd. I osgoi dal haint – fe ddylai merched beichiog:
• Beidio helpu ŵyna na rhoi llaeth i ddafad feichiog.
• Osgoi cysylltiad gydag ŵyn wedi’u herthylu neu rai newydd anedig
• Osgoi gafael (neu olchi) ddillad, esgidiau neu unrhyw ddefnyddiau eraill sydd wedi bod mewn cysylltiad â defaid neu ŵyn ar ôl genedigaeth.
• Sicrhau glanweithdra
• Os ydyn nhw neu eu partneriaid yn dod i gyswllt uniongyrchol neu anuniongyrchol gydag ŵyn neu ddillad ŵyna – i gymryd cawod neu fath gan olchi’u gwalltiau.
• Sgwrio dwylo a chadw’u hewinedd yn fyr
• Golchi dillad ŵyna ar wahân a pheidio dod i gyswllt â meddyginiaethau neu ddefaid ar feddyginiaethau
• Ceisio cyngor meddyg os ydyn nhw’n dioddef o symptomau ffliw neu os ydyn nhw’n pryderu eu bod wedi dal haint o awyrgylch fferm.
“Mae cyngor fel hyn yn bwysig yng Nghymru gan fod llawer o’r cymunedau’n rhai gwledig,” meddai.