Mae o leiaf 13 o bobl ddigartref wedi marw ar ôl tywydd oer yng Ngogledd India.
Mae’n debyg mai gwyntoedd oer o’r Himalayas sy’n gyfrifol am y tymeredd sy’n agos at bwynt rhewi, meddai arbenigwyr.
Mae tymheredd wedi gollwng yn is na 1C mewn rhai mannau yn Uttar Pradesh yr wythnos hon ac wedi plymio i 0.6C yn Agra, dinas y Taj Mahal.
Mae 13 o bobl o bobl wedi marw dros nos yn Uttar Pradesh er gwaethaf ymdrech awdurdodau i ddosbarthu blancedi a choed tân, meddai Surendra Srivastava, llefarydd ar ran yr Heddlu lleol.
Mae o leiaf 26 o bobl eraill wedi marw yn nhaleithiau Bihar a Jharkhand ac yn y brifddinas New Delhi yn ystod y tair wythnos diwethaf.