Mae’r heddlu’n dal i chwilio am ddyn sydd wedi bod ar goll o’i gartref yn Harlech ers cyfnod y Nadolig.
Yn ôl Mark Armstrong o Heddlu Gogledd Cymru, mae’r Heddlu’n pryderu am ddiogelwch John Howard Mitchinson, 54 blwydd oed o’r Stryd Fawr yn Harlech. Cafodd ei weld ddiwethaf ganol y prynhawn, 26 Ragfyr yn ardal Twthill o Harlech.
Mae’n cael ei ddisgrifio fel bod 5 troedfedd wyth o daldra, penfoel, yn gwisgo cot law las tywyll a sbectol.
Mae’r Heddlu wedi chwilio o amgylch ardal Harlech gan ddefnyddio cŵn a hofrennydd – ond, heb weld golwg ohono.
“Rydan ni eisiau datblygu’r ymdrech chwilio o fewn ychydig wythnosau ac fe fyddan ni’n cynnal mwy o ymchwiliadau o dŷ i dŷ,” meddai Mark Armstrong.
“Rydw i unwaith eto yn gofyn i bobl Harlech a Llanfair helpu gan archwilio siediau, adeiladau allanol a gerddi am unrhyw arwydd o rywun yn ceisio mynediad – ac i hysbysu’r Heddlu o unrhyw beth amheus.”
Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth am John Howard Mitchinson gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru gynted ac sydd bosibl ar 101, 0845 6071002, neu’n ddienw gyda Taclo’r Tacle’ 0800555111.