Fe fydd Archesgob Cymru yn dweud bod bonwsau anferth bancwyr yn “anfoesol”, heddiw.

Wrth annerch Grŵp Proffesiynol Cymru, fe fydd Dr Barry Morgan yn dweud y dylai dynion busnes gymryd llw tebyg i lw hypocrataidd doctoriaid.

Daw galwad Barry Morgan wrth i fanciau baratoi i ddatgelu maint bonwsau eu gweithwyr eleni.

Ddoe rhybuddiodd y Canghellor George Osborne y byddai’n rhaid iddo weithredu os nad oedd banciau yn talu bonwsau “cyfrifol”.

Bydd Archesgob Cymru yn dweud bod yr argyfwng ariannol, bonwsau anferth a sgandal costau Aelodau Seneddol yn dangos bod angen mwy o bwyslais ar foesoldeb mewn busnes.

“Yn 2009 cafodd bonwsau gwerthu £7.3 biliwn eu talu i fancwyr,” meddai.

“Mae pawb yn ymwybodol o’r dadleuon bod rhaid talu bancwyr hyn a hyn neu fe fydden nhw’n mynd i weithio dramor. Ond fe fyddai pob un ohonyn nhw allan o waith os nad oedd y trethdalwr wedi eu hachub nhw.

“Mae’r tâl yn ormodol a does dim cyfiawnhad drosto, ac mae’n anwybyddu teimladau cryf y cyhoedd.”

Rhybuddiodd bod angen i bobol busnes ail ystyried lle moesau yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

“Yng nghyd-destun busnes mae moesau yn cael ei ystyried yn amherthnasol, duwiol a hyd yn oed yn wan,” meddai.

“Dyw e ddim yn cael ei ystyried yn angenrheidiol mewn byd ble mae cystadleuaeth a thwf economaidd yn teyrnasu.

“Ond erbyn hyn rydym ni’n dechrau sylweddoli bod pob penderfyniad ydym ni’n ei wneud yn adlewyrchu ein gwerthoedd ein hunain, y math o bobol yr ydym ni a’r modd yr ydym ni’n byw ein bywydau.”