Mae banc Chineaidd sy’n berchen ar y wladwriaeth wedi dechrau cynnig cyfrifon mewn arian yuan i’w gwsmeriaid.
Yr yuan yw arian China ac mae cynnig y banc yn rhan o ymgyrch i ledu defnydd yr arian yn fyd eang.
Daw cyhoeddiad Banc China heddiw cyn ymweliad gan Arlywydd China, Hu Jintao, i Washington yr wythnos nesaf.
Mae’r Tŷ Gwyn wedi dweud y bydd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, yn codi pryderon ynglŷn â’r yuan yn y cyfarfod.
Mae beirniaid yn dweud bod China yn cadw gwerth y yuan i lawr yn fwriadol er mwyn achub mantais fasnachol ar wledydd eraill y byd.
Dywedodd Banc China y bydd cwsmeriaid yn y gangen yn Chinatown, Efrog Newydd yn cael cyfnewid doleri am yuan a gyrru ac archebu yuan o China.
Mae £1 werth tua 10 yuan.