Byddai’n anodd iawn i Lywodraeth Prydain amddiffyn penderfyniad i beidio trydaneiddio’r rheilffordd yr holl ffordd o Lundain i Abertawe, yn ôl y Prif Weinidog.
Wrth annerch y wasg am y tro cyntaf eleni roedd Carwyn Jones a’i Ddirprwy Ieuan Wyn Jones yn parhau i obeithio y bydd yr ysgrifennydd trafnidiaeth Philip Hammond yn gweld manteision trydaneiddio’r rheilffyrdd i dde Cymru.
“Ag eithrio trydaneiddio’r trac hanner ffordd trwy dwnnel Hafren, alla’i ddim meddwl am sefyllfa anos i Lywodraeth Prydain ei hamddiffyn yng nghyd-destun pobol Cymru,” meddai Carwyn Jones.
Er ei fod yn cytuno bod trydaneiddio’n fater pwysig, roedd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn mynnu bod disgwyl penderfyniadau eraill o bwys i Gymru hefyd.
“Wedi dweud hynny, mae trafodaethau’n mynd rhagddynt,” meddai Nick Bourne. “Ond dylid gofyn i’r llywodraeth roi arian yn y dyfodol tuag at drydaneiddio llinell y Cymoedd achos mae’n ei wneud yn fwy ymarferol i gael rhwydwaith drydanol drwy dde Cymru.
“Mae’n fater dw i’n gwybod bod y Prif Weinidog yn frwdfrydig drosto felly mae’r trafodaethau’n mynd rhagddynt.”
Mae disgwyl cyhoeddiad ar drydaneiddio’r rheilffyrdd yn fuan.
“Rydym ni’n credu bod achos busnes da dros fynd a’r rheilffordd i Abertawe,” meddai Ieuan Wyn Jones. “Nawr, rhaid iddyn nhw wneud cyhoeddiad.
“Y cyhoeddiad allweddol fydd pa fath o drenau fyddan nhw’n eu prynu. Fe fydd hynny’n dweud wrthym ni pa benderfyniad maen nhw am eu gwneud ar drydaneiddio.”