Mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol wedi dweud y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ymchwilio i ymateb pob un o gynghorau Cymru i’r eira mawr fis diwethaf.
Dywedodd ei fod yn credu y gellid dysgu gwersi at y dyfodol ar ôl yr eira ddisgynodd ddiwedd mis Tachwedd a thrwy gydol mis Rhagfyr.
“Ymatebodd rhai awdurdodau lleol yn well na’i gilydd o ran cadw llwybrau ar agor ar gyfer traffig a cherddwyr,” meddai.
“Bydd swyddogion yn cynnal adolygiad o ymateb pob awdurdod lleol er mwyn i ni allu dysgu gwersi.
“Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd wedi cysylltu â nifer o gynrychiolwyr o fyd busnes ledled Cymru i drafod effaith y tywydd ar fusnesau. Rydyn ni wedi gwrando ar eu pryderon a byddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu cwmnïau sy’n ceisio gweithredu dan y fath amgylchiadau anodd.”
Dywedodd fod Cymru wedi wynebu “rhai o’r amgylchiadau anoddaf i gael eu hachosi gan dywydd gaeafol ers cenhedlaeth”, gyda’r tymheredd ar gyfartaledd 4-5 gradd Celsius yn is na’r tymheredd arferol yr adeg hon o’r flwyddyn.
“Achosodd hynny lu o anawsterau ar rai adegau, gan ychwanegu at y pwysau sydd ar ein gwasanaethau cyhoeddus.
“Hoffwn ddiolch i bawb yng Nghymru a weithiodd mor galed i gadw pethau i symud ac i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
“Byddwn ni’n parhau i fonitro’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus dros y misoedd nesaf. Mae’n bosibl y cawn ragor o dywydd eithriadol o oer y gaeaf hwn, felly rhaid bod yn barod.”
Graean
Mynnodd Carl Srageant bod Cymru yn barod am ragor o eira, ar ôl pryderon bod lefelau graean wedi syrthio’n isel iawn o ganlyniad i’r tywydd oer.
“Mae gan Gymru ddigon o halen, ac mae rhagor o gyflenwadau wedi’u trefnu,” meddai’r Gweinidog. “Ym mis Rhagfyr, rhoddais i £7m ychwanegol i awdurdodau brynu halen a thrwsio tyllau yn y ffyrdd, gan ddweud y dylid rhoi blaenoriaeth i’r mannau a ddefnyddir gan bobl hŷn neu’r rheini sy’n agored i niwed, fel meddygfeydd, canolfannau siopa ac ysgolion.
“Trwy gydol yr anawsterau, buom yn gweithio’n agos â’r Swyddfa Dywydd ac asiantaethau perthnasol eraill i sicrhau ein bod yn cael yr holl wybodaeth ddiweddaraf yr oedd ei hangen i sicrhau bod trefniadau ymateb priodol yn eu lle.
“Bues i’n cynrychioli Llywodraeth y Cynulliad ar Bwyllgor Gweinidogol Llywodraeth San Steffan ar wrthsefyll y tywydd. Crëwyd y pwyllgor i sicrhau bod yr ymateb i’r amgylchiadau yn cael ei weithredu ar lefel Brydeinig.
“Bydd y gwaith o gydgysylltu gwahanol asiantaethau yn parhau dros y misoedd nesaf, a byddwn ni’n parhau i fonitro’r sefyllfa i sicrhau bod trefniadau wrth gefn yn eu lle os cawn ragor o rew ac eira.”