Fe fydd pob tafarn yng Ngwledydd Prydain yn cael aros ar agor hyd at 1am am ddwy noson yn olynol er mwyn dathlu’r briodas Frenhinol, cyhoeddwyd heddiw.

Fe fydd y Tywysog William a Kate Middleton yn priodi yn Abaty San Steffan ar ddydd Gwener, 29 Ebrill.

Fe fydd y newid yn caniatáu i landlordiaid ymestyn eu horiau ar noson y briodas heb orfod gofyn am ganiatâd yr awdurdodau trwyddedu.

Bydd y dathlu yn cael parhau hyd at 1am ar y nos Sadwrn hefyd.

Fe fydd gweinidogion yn trafod y cynllun gydag Aelodau Seneddol heddiw.