Mae cwmni Airbus wedi cyhoeddi heddiw bod cwmni hedfan yn gobeithio prynu bron i 200 o’u hawyrennau A320– yr archeb fwyaf yn hanes y diwydiant.
Mae’r cwmni hedfan am bris isel o’r India, IndiGo, eisiau prynu 180 A320 – gan gynnwys 150 o awyrennau newydd Airbus, yr A320neos (dde).
Bydd rhaid i IndiGo dalu £10 biliwn am yr holl awyrennau meddai Airbus, sydd â ffatri yn Brychdyn yn Sir y Fflint.
“Mae’n fuddugoliaeth i’r cwmni,” meddai Joseph Campbell, arbenigwr ar y diwydiant hedfan o fanc Barclays Capital.
“Mae’n gyfuniad perffaith o farchnad sy’n tyfu’n gyflym â chwmni sy’n tyfu’n gyflym.”
IndiGo fydd y cwsmer cyntaf i brynu’r A320neo – fersiwn diwygiedig o’r A320 a fydd ar gael yn 2016.
Mae Airbus eisoes wedi gwerthu 6,800 A320 i fwy nag 310 o gwsmeriaid ledled y byd ers iddo lansio yn 1988.