Mae prif hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies, wedi dweud mai’r gêm Cwpan Heineken yn erbyn Caerlŷr ddydd Sadwrn yw’r pwysicaf mewn tair blynedd i’r rhanbarth.

Tri phwynt yn unig sy’n gwahanu’r Scarlets, Caerlŷr a Perpignan yng ngrŵp pump – a’r Scarlets sydd ar y brig ar hyn o bryd.

Bydd buddugoliaeth dros y Saeson ym Mharc y Scarlets yn gam mawr ymlaen tuag at sicrhau lle yn rownd nesaf y gystadleuaeth.

Fe fydd y Scarlets yn teithio i Ffrainc i wynebu Perpignan yng ngêm olaf y grŵp y penwythnos nesaf.

Siom a balchder

“Hwn yw’r gêm fwyaf yn y tair blynedd diwethaf,” meddai Nigel Davies.

“Yr hyn sy’n gwneud y gêm yma yn erbyn Caerlŷr mor bwysig yw ein bod ni mewn safle mor dda – dyw’r Scarlets heb fod mewn safle mor gryf ers amser hir.

“Ry’n ni’n amlwg yn hapus iawn ein bod wedi ennill 15 pwynt yn y gemau hyd yn hyn. Dyna oedd ein targed ac r’yn ni wedi cadw ato.

“R’yn ni’n hapus iawn i fod ar frig ein grŵp. R’yn ni wedi gweithio’n galed er mwyn cyrraedd y brig ac r’yn ni’n haeddu bod yno.”

Dywedodd Nigel Davies bod ei dîm yn awyddus i wneud yn iawn am y canlyniad siomedig oddi cartref yn erbyn Caerlŷr. Collodd y Scarlets 46-10 ar Ffordd Welford ym mis Hydref llynedd.

“Mae’r gêm yma yn un holl bwysig ac fe fydd rhaid i ni fod ar ein gorau,” meddai.