Mae Cymdeithas Bêl Droed Lloegr wedi dweud nad ydyn nhw eisiau gweld ail sefydlu’r Bencampwriaeth Brydeinig.
Roedd yna adroddiadau ddoe yn awgrymu bod noddwyr newydd tîm pêl-droed Lloegr, Vauxhall, wedi argyhoeddi Cymdeithas Bêl Droed Lloegr i atgyfodi’r gystadleuaeth.
Mae disgwyl i Vauxhall gyhoeddi cytundebau gyda Chymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd.
Roedd rheolwr gyfarwyddwr Vauxhall, Duncan Aldred, wedi dweud y byddai’n hoffi gweld y gystadleuaeth yn ei hol ond mai Cymdeithas Bêl Droed Lloegr fyddai’n penderfynu.
“Mae gen i atgofion da am y Bencampwriaeth Brydeinig,” meddai Duncan Aldred.
Serch hynny mae Lloegr wedi dweud eu bod nhw’n awyddus i chwarae pob un o’r gwledydd cartref yn 2013 er mwyn dathlu pen-blwydd y gymdeithas yn 150 oed.
“R’yn ni wedi bod yn trafod gyda’r gwledydd cartref eraill am gynnal cyfres o gemau unigryw yn 2013,” meddai ysgrifennydd cyffredinol Cymdeithas Bêl Droed Lloegr, Alex Horne.
Mae’r gwledydd cartref eraill, yn ogystal â Gweriniaeth Iwerddon, eisoes wedi trefnu cystadleuaeth ar y cyd fydd yn dechrau yn Nulyn mis nesaf.