Mae yna amheuon am ddyfodol Ben Blair wrth i anaf i’w ben-glin ei gadw oddi ar y cae i’r Gleision.
Dyw’r cefnwr o Seland Newydd heb chwarae ers mis Hydref a does dim arwydd bod y broblem yn gwella.
“Mae’n gobeithio cael ail farn ar yr anaf ac mae’n rhwystredig iawn,” meddai Dai Young wrth bapur newydd y South Wales Echo.
“Mae yna lawer iawn o boen yn y ben-glin a dyw’r anaf ddim i weld yn gwella ar hyn o bryd.
“Dyw’r arbenigwyr ddim yn credu y bydd llawdriniaeth o fudd iddo. Mae’n rhaid iddo orffwys er mwyn gwella.
“Mae’r profion wedi dangos bod rhywfaint o’i asgwrn yn rhydd. Ond dyw’r meddygon ddim am wneud unrhyw lawdriniaeth ar yr asgwrn rhag ofn iddyn nhw achosi rhagor o boen iddo.
“Mae’n bryder i bawb – mae o wedi bod yn absennol ers tro.
“Mae Ben yn teimlo’n rhwystredig, yn rhannol oherwydd y boen, ond hefyd am nad yw’n gallu dechrau rhedeg ac ymarfer unwaith eto.”