Fe fydd y 23fed ffilm James Bond yn cael ei ffilmio eleni, cyhoeddwyd heddiw.

Roedd amheuon am ddyfodol y gyfres ar ôl i’r ffilm ddiweddaraf, y drydedd fydd yn cynnwys Daniel Craig, gael ei ddal yn ôl y llynedd.

Beiodd cwmni EON Productions drafferthion ariannol MGM Studios am yr oedi.

Ond cadarnhaodd perchnogion newydd MGM, a Michael G.Wilson a Barbara Broccoli, cynhyrchwyr y ffilmiau, y bydd James Bond yn ei ôl ar 9 Tachwedd, 2012.

Fe fydd y gwaith ffilmio yn dechrau eleni a Sam Mendes, sy’n enwog am ei waith ar American Beauty a Road to Perdition, fydd yn cyfarwyddo.

Cafodd y ffilm bond ddiweddaraf, Quantum of Solace, ei rhyddhau yn 2008.

Roedd sïon y llynedd bod Daniel Craig yn barod i droi cefn ar James Bond oherwydd yr oedi hir.