Mae amddiffynnwr ifanc Caerdydd, Adam Matthews, yn ystyried ei ddyfodol gyda’r Adar Glas ar ôl i’r clwb gynnig cytundeb newydd iddo.
Dywedodd prif weithredwr y clwb, Gethin Jenkins, bod Caerdydd wedi cynnig cytundeb newydd a’u bod nhw’n aros i glywed yn ôl gan Adam Matthews.
Roedd y Cymro wedi denu sylw sawl clwb yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor diwethaf, gan gynnwys Man Utd ac Arsenal.
Ond dyw’r amddiffynwr ddim wedi ymddangos yn nhîm cyntaf Caerdydd mor aml y tymor hwn.
Mae Adam Matthews wedi chwarae 46 gêm dros Gaerdydd, ond dim ond dwy gêm mae o wedi eu dechrau’r tymor yma.
Clodforodd rheolwr Caerdydd, Dave Jones, Matthews llynedd gan ddweud y byddai’r amddiffynnwr ifanc yn un o sêr y gêm ryw ddydd.
Ond fe gafodd Matthews ei feirniadu gan y rheolwr ar ôl i’r Adar Glas golli yn erbyn Ipswich yn gynharach yn y tymor.
Mae disgwyl i Jay Bothroyd a Chris Burke aros tan ddiwedd y tymor cyn gwneud penderfyniad ynglŷn â’i ddyfodol ac fe allai Adam Matthews wneud yr un fath.
Anafiadau
Mae’r chwaraewr canol cae, Danny Drinkwater, ar fin dychwelyd i’r garfan yn dilyn anaf. Dyw’r chwaraewr sydd ar fenthyg gan Man Utd heb chwarae 90 munud dros yr Adar Glas ers iddyn nhw faeddu Portsmouth 2-0 ym mis Awst.
Mae ymosodwr newydd Caerdydd, Jon Parkin, yn holliach cyn wynebu Norwich ar y penwythnos ac fe allai hynny olygu nad ydi Jay Bothroyd yn dychwelyd am wythnos arall.